
PARC YNNI BAGLAN - CYSYLLTIADAU
LLWYDDIANNUS
Mae
popeth yn ei le ym Mharc Ynni Baglan i sicrhau llwyddiant
i ddeiliaid gan gynnwys: gweithlu ar gael gyda sgiliau
priodol: tir ar gyfer datblygiadau pwrpasol; rhaglen
ddatblygu barhaus i ffatrïoedd gyda lle i ehangu;
mynediad a lleoliad di-ail; potensial i arbed arian
ar
gostau ynni.
 |
Mae
gweithlu gyda sgiliau addas ar gael, ar gyfer
gwasanaethau a gweithgynhyrchu, gyda chysylltiadau
cryf â phrifysgolion a sefydliadau hyfforddi
lleol. Mae rhyw 1.3 miliwn o bobl yn byw o fewn
cyrraedd mewn car ac mae hanes hir o weithio sifftiau
yn yr ardal. |
 |
Mae
rhyw 72 hectar (177 erw o dir) ar gael i'w datblygu
ar unwaith, ac mae isadeiledd yn ei le mewn sawl
man. Ceir rhaglen o ddatblygu menter ar waith.
Ceir dewis o dir i'w werthu neu i'w osod ar brydles
gydag opsiynau dylunio ac adeiladu. Mae prisiau
tir yn gystadleuol iawn ar £60,000 yr erw
(£14,800 yr hectar). |
 |
Gall
buddsoddwyr fanteisio ar y lefel uchaf o gymorth
gan y Llywodraeth am fod hon yn ardal Amcan Un
yr UE sy'n gymwys i dderbyn cymorth Graddfa 1
o Ewrop. |
 |
Am
fod Bae Baglan yn gartref i bwerdy adnabyddus
GE, gallai deiliaid arbed arian gweithredu drwy
gysylltu â'r darparwr trydan i'r safle,
gan osgoi'r costau trosglwyddo a chyflenwi a geir
ar safleoedd eraill. Mae cynilion potensial ar
gostau ynni o hyd at 30%. |
 |
Mae
cysylltiadau ardderchog â'r safle: |
| |
 |
300
metr o Gyffordd 41 o'r M4, sy'n ei gysylltu yn
uniongyrchol â Llundain, Canolbarth Lloegr
a'r Cyfandir; |
| |
 |
Mae
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd o fewn 45 munud
i'r parc mewn car. |
| |
 |
Mae'r
llinell reilffordd genedlaethol yn rhedeg wrth
y Parc ac mae cyfleusterau ar gael i greu man
aros ar y safle; |
| |
 |
Saif
dociau Abertawe a Phort Talbot gerllaw; |
I gloi, ceir partneriaeth unigryw rhwng Parc Ynni Baglan
a chyrff cyhoeddus a phreifat; Cyngor Datblygu Cymru,
Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot a BP, i'ch
cynorthwyo gyda'ch holl ofynion datblygu. I dderbyn
cyngor a chefnogaeth uniongyrchol anfonwch neges e-bost
drwy glicio yma neu ffoniwch 01639 815288.
|